Hanes y morglawdd

Mae Morglawdd Bae Caerdydd 1.1 cilomedr o hyd ac mae’n mynd o ddociau Caerdydd yn y gogledd i Benarth yn y de. Arweiniodd y project adeiladu peirianyddiaeth sifil hwn at gorlannu’r Bae, sydd â dros 13 cilomedr o fôr o’i flaen.

Dechreuodd y cynllun gwerth £220 miliwn ym mis Mai 1994 a chafodd ei gwblhau ym mis Tachwedd 1999 – dyma oedd y prif gatalydd ar gyfer gwaith adfywio gwerth £2 biliwn ar hen ddociau Caerdydd a Phenarth.

Mae lociau a phontydd, llifddorau a llwybr pysgod yn rhan o’r Morglawdd. Mae yno hefyd ardal wedi ei thirlunio, man agored cyhoeddus, lle gall y cyhoedd fynd am dro neu bicnic wrth edrych ar yr olygfa hyfryd tua’r môr a’r bae mewnol.

 

Sut mae’r Morglawdd yn gweithio?

O gwmpas safle’r Morglawdd, ceir byrddau gwybodaeth yn disgrifio’r gwaith o ddydd i ddydd. Dyma fwy o fanylion ynghylch cydrannau unigol strwythur y Morglawdd:

Ystafell Reoli’r Morglawdd

Dyma ganolbwynt y gweithrediadau, ac mae’n cael ei staffio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn gan dîm o weithredwyr, rheolwyr lociau a pheirianwyr. Yr ystafell yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer cychod sy’n hwylio i mewn i ac allan o Fae Caerdydd.

Lociau a phontydd

Mae tri loc ar y morglawdd, a phob un yn 40medr o hyd; mae dwy yn 8 medr o led ac un yn 10.5 medr o led. Maen nhw’n caniatáu i gychod hwylio rhwng Aber Afon Hafren a Bae Caerdydd. Gall pob loc adael hyd at 10 llong o faint cyffredin drwyddo; mae croesi’n cymryd rhwng 5 ac 20 munud, yn dibynnu ar y llanw.

Mae gan bob loc bont wrthbwys sy’n pwyso tua 88 tunnell. Gan fod ystod llanw’r aber mor uchel, mae gatiau’r loc yn mesur hyd at 16 metr o uchder i alluogi cychod i hwylio drwodd ar unrhyw gyfnod y llanw.

Pan mae’r lociau wedi cau, mae modd i gerddwyr, beicwyr a cherbydau basio dros strwythur y Morglawdd.

Llifddorau

Mae pum llifddor yn rheoli lefel y dŵr yn y Bae. Defnyddir y llifddorau un ai i adael i lif o afonydd Taf ac Elái fynd i Fôr Hafren neu i greu rhwystr i atal y llanw uchel rhag dod i mewn i’r Bae. Gall dros chwarter miliwn litr o ddŵr yr eiliad lifo trwy bob dôr, sy’n 7.5 medr o uchder a 9 medr o led.

Mae’r llifddorau’n gweithio gan ddefnyddio gwybodaeth gan synwyryddion lefelau dŵr y Bae a’r aber i bennu lleoliad y giatiau. Pan fo lefel dŵr yr aber yn uwch na’r Bae, mae’r llifddorau’n cau i atal dŵr y môr rhag llifo i mewn i’r llyn dŵr croyw.  Pan fo lefel dŵr yr aber yn is na lefel y Bae mae’r llifddorau’n agor i gynnal lefel y dŵr.

Llwybr pysgod

Mae’r Morglawdd hefyd yn cynnwys llwybr pysgod pwrpasol i alluogi eogiaid a brithyll môr i ddychwelyd i afonydd Taf ac Elái. Dyma un o’r llwybrau pysgod mwyaf blaengar yn Ewrop, mae’n cynnwys camerâu tanddwr ac offer symud a sain sy’n cofnodi taith y pysgod ac yn adnabod rhywogaethau gwahanol.

Mae’r eog a’r brithyll môr yn silio ym mhennau uchaf afonydd Taf ac Elái yn y gaeaf. Pan mae’r pysgod ifainc yng nghyfnod eu gwyniad, maen nhw’n teithio i lawr yr afon ac i’r môr. Wedi rhyw ddwy flynedd, mae’r pysgod, sydd bellach yn rai mawr, yn dod yn ôl i’r afon y ganwyd nhw ynddi ac yn ôl i’r safle silio i gwblhau’r cylch.  Mae rhai eogiaid o Afon Taf wedi teithio cyn belled â’r Cefnfor Iwerydd, a hyd yn oed i arfordir gorllewinol yr Ynys Las cyn dod yn ôl i Fae Caerdydd.

Mae dŵr croyw yn llifo i’r llwybr pysgod o’r Bae ac ar hyd system o byllau a choredau, sy’n caniatáu i bysgod nofio ym mhob cyfnod llanw, o’r aber i’r Bae. Mae’r pysgod y tu allan i’r Bae yn adnabod y dŵr croyw sy’n llifo o’r afon sy’n gartref iddyn nhw, ac maen nhw’n dod i mewn ar hyd y llwybr pysgod.

Mae Awdurdod Harbwr Caerdydd yn monitro’r llwybr pysgod er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithiol. Ewch i’n hadran Amgylchedd am fwy o wybodaeth.

Y Cwt Pinc

Dyluniwyd yr adeilad uchel, amlwg hwn iddo gael ei ddefnyddio gan glybiau cychod hwylio lleol, a threfnwyr digwyddiadau eraill, a rheoli rasys yn yr afon.

Hanes y morglawdd