Ynys Echni

Ynys Echni

Yn gyfoeth o Fywyd Gwyllt – Yn llawn Hanes

Mae gan Ynys Echni gymeriad unigryw – mae’n lle gwyllt, arunig â golygfeydd godidog o’r Ynys i arfordiroedd Cymru a Lloegr. Gwta ½ milltir o led, mae’r Ynys fechan hon yn dlws cudd ym Môr Hafren. Mae Ynys Echni yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Leol. Mae Project Ynys Echni yn gwarchod nodweddion naturiol a diwylliannol yr Ynys, o laswelltir arforol i farics Fictoraidd, o gytrefi adar môr i fynceri rhyfel.

..Come and explore

Mae hanes hir i Ynys Echni. Yr ymwelydd cyntaf â’r ynys oedd Cadog Sant.   Ymwelodd â’r ynys yn rheolaidd ar ddiwedd y 6ed ganrif i fyfyrio, yn enwedig yn ystod y Grawys. Yn ystod y 18fed ganrif, sylwodd y smyglwyr fod yr ynys mewn lleoliad delfrydol iddyn nhw. Honnwyd fod hen dwll mwyngloddio yng ngogledd yr ynys yn cysylltu â chyfres o dwneli naturiol, a dihangfa gudd i’r moroedd.  Er bod Ynys Echni i’w gweld yn glir o arfordiroedd Cymru a Lloegr, ni allai awdurdodau’r tollau wneud dim gan nad oedd ganddyn nhw gwch i’w cludo i’r ynys. Yn ôl pob sôn, defnyddiwyd ogof fach yng nghraig ddwyreiniol Ynys Echni i storio nwyddau anghyfreithlon, yn arbennig te a brandi.

Ar 13 Mai 1897, gwnaeth dyfeisiwr Eidalaidd 22 oed o’r enw Guglielmo Marconi, gyda chymorth un o beirianwyr Swyddfa Bost Caerdydd, George Kemp, lwyddo i drawsyrru’r signalau diwifr cyntaf dros y dyfroedd o Ynys Echni i Drwyn Larnog ger Penarth. Ar ôl methu â pherswadio llywodraeth yr Eidal i gefnogi ei broject, daeth Marconi â’i system delegraffiaeth i Gymru. Cododd fast trawsyrru 34m o uchder ar Ynys Echni, yn ogystal â mast derbyn 30m o uchder ar Drwyn Larnog. Methodd y cynnig cyntaf, ond ar 13 Mai cododd y mast i 50m a derbyniwyd y signalau’n glir. Y neges a anfonwyd drwy God Morse oedd “Ydych chi’n barod?”; mae’r papur Morse gwreiddiol, wedi’i lofnodi gan Marconi a Kemp, bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Lluniau gan: Gareth Johns

Gweld hanes llawn

Mae Ynys Echni yn rhan o Blwyf y Santes Fair yng Nghaerdydd, ac yn rhan annatod o hanes Caerdydd.

Credir i lafn y fwyell a ddarganfuwyd ar yr ynys ddod o’r Oes Efydd hwyr, 900 i 700 cyn Crist. Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth archeolegol arall, ni wyddir a oedd yr ynys wedi ei phoblogi ar y pryd. Galwai’r Eingl-Sacsoniaid Ynys Echni yn ‘Bradamreolice’ ac Ynys Ronech yn ‘Steopanreolice’, sy’n cadarnhau cysylltiadau crefyddol yr ynysoedd gan fod ‘reolice’ yn deillio o air Gwyddelig â’r ystyr ‘mynwent’ neu ‘gladdfa’.

Sant Cadog oedd yr ymwelydd cyntaf y gwyddir amdano i ymweld â’r ynys. Ymwelai’n gyson â’r ynys yn ystod y 6ed ganrif, am gyfnodau o fyfyrio tawel, yn enwedig dros gyfnod y Grawys. Bu Gildas, Barruc a Gwalches, oll yn ddisgyblion i Sant Cadog, yn ymweld â’r ynys hefyd. Roedd Gwalches a Barruc yn dychwelyd o Ynys Echni ar ôl cael eu gyrru yno gan St Cadoc i nôl llyfr a anghofiwyd ar ymweliad blaenorol, pan drödd y cwch ac fe foddon nhw. Golchwyd corff Barruc i’r lan ac fe’i claddwyd ar Ynys y Bari, tra cariwyd corff Gwalches i Ynys Echni ac fe’i claddwyd yno.

Yn y flwyddyn 918, yn dilyn eu trechu can y Sacsoniaid yn Watchet, bu’r Daniaid yn llochesu ar ynysoedd Steopanreolice a Bradanreolice, ond ni wyddir am ba hyd.

O’r Anglo-Saxon Chronicle:

“918 – In this year a great naval force came over here from the south of Brittany, and two earls, Ohter and Hroald with them. And they went west round the coast so that they arrived at the Severn estuary and ravaged in Wales everywhere along the coast, where it suited them… Yet they stole inland by night on two occasions – on the one occasion east of Watchet, on the other occasion at Porlock. Then on both occasions they were attacked, so that few of them got away – only those who could swim out to the ships. And then they remained out on the island of Flatholme until they became very short of food and many men had died of hunger because they could not obtain any food. Then they went from there to Dyfed, and from there to Ireland; and this was in the autumn.”

Mae cofnod arall yn yr Anglo-Saxon Chronicle yn nodi:

“1067 – And Gytha, Harold’s mother, and many distinguished men’s wives with her, went out to Flatholme and stayed there for some time and so went from there overseas to St. Omer.”

Deillia’r enwau ‘Holm’ neu ‘Holme’ o’r gair Sgandinafaidd am ynys ar afon, ac er ei bod hi’n bosibl nad arhosodd y Daniaid ar un o’r ynysoedd yn hir, yn sicr fe ddefnyddion nhw Ynys Echni ac Ynys Ronech yn gymorth mordwyo yn ystod eu hymosodiadau ar aber yr afon Hafren

Y Goleudy

Gwelwyd y cynnau tân cyntaf yno ar 1 Rhagfyr 1737. Dim ond golau o fasged tân-glo ydoedd, y glo’n cael ei gario gan y ceidwaid o’r storfeydd i ben y tŵr. Byddai’r golau yn llosgi llawer o lo a glaniai 25 tunnell ar yr ynys bob mis.

Yn 1819 cytunodd Tŷ’r Drindod i gymryd y tŵr oddi ar William Dickenson am weddill y lês a dechrau gwneud newidiadau. Addaswyd y tŵr carreg crwn enfawr i wneud sylfaen addas i lusern gyda lamp olew ynddi. Dangoswyd y golau gwyn sefydlog newydd hwn ar 7 Medi 1820. Codwyd y llusern 5 troedfedd yn uwch yn 1825, a gosodwyd llusern newydd 14 troedfedd o ddiamedr yn 1867, a oedd yno tan y trawsnewid golau i drydan yn 1969.

Yn 1881, trawsnewidiwyd y golau yn olau diffoddol drwy osod peirianwaith cloc, ac erbyn hyn mae ganddo batrwm nodweddiadol o olau gwyn a choch yn fflachio deirgwaith bob deg eiliad, hyd at bellter o 21 milltir. Yn 1997, trawsnewidiwyd y golau i redeg ar bŵer yr haul

Gorsaf y Corn Niwl

Adeiladwyd gorsaf y corn niwl yn 1908. Gosodwyd y corn awyr cywasgedig grymus mewn un adeilad, tra darparai fwthyn le byw ychwanegol i’r ceidwaid. Yn 1929 daeth y goleudy’n orsaf yn y graig, y ceidwaid cyn hynny wedi byw gyda’u teuluoeddd yn y ddau fwthyn wrth droed tŵr y goleudy. Aeth yr adeiladau hyn wedyn yn ddiwerth ac fe’u dymchwelwyd. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, gofalwyd am y goleudy gan ddau set o dri cheidwad, yn gweithio un mis yn y goleudy wedi ei ddilyn â mis ar y tir mawr.

Caer o Ynys

Yn 1860 argymhellodd y Comisiwn Brenhinol i Ynys Echni ffurfio rhan o “system amddiffyn strategol arfordirol ar gyfer Môr Hafren” oedd yn cynnwys Brean Down, Ynys Ronech a Larnog. Dechreuodd y paratoi ar gyfer adeiladu’r gaer ar Ynys Echni yn 1865, a’i gwblhau yn 1869. Er gwaetha’r miliynau a wariwyd, ni fu unrhyw ymosodiad erioed.

Oherwydd y tirwedd cymharol isel ac agored, codwyd Cerbydau Moncrieff Disappearing ar Ynys Echni. Roedd pob un o’r cerbydau hyn yn cario gwn 7” Rhigol Blaen Lwytho, yr olaf o’r blaen lwythwyr, ac fe’u gosodwyd mewn pyllau crwn neu siâp-u wedi’u hadeiladu o galchfaen a bric.

Roedd yr ysgytwad a achoswyd gan saethu’r belen-dân 115 pwys yn gwthio’r gwn i lawr i’r pwll. Tra’n y safle ar-i-lawr hwn, ail-lwythwyd y gwn, ac yna, gyda chymorth gwrthrych gwrthbwyso mawr, fe’i codwyd yn barod i saethu unwaith eto. Nid yn unig roedd hi’n anodd i ynnau llongau’r gelyn leoli’r fath fagnelfa, a dyfalu pa mor bell ydoedd, ond hefyd gwarchodwyd y criwiau oddi mewn i’r pwll tra’n gweithio’r gwn. Fodd bynnag, dim ond mewn profion y taniwyd y gynnau, ac ni wireddwyd eu potensial llawn.

Gosodwyd naw o’r gynnau hyn ar yr ynys mewn pedair magnelfa: y Goleudy, y Ffynnon, y Ffermdy a Magnelfa’r Castell. Darparwyd arfdŷ i bob magnelfa. Yn anffodus, roedd hi’n gymharol hawdd i ddatgymalu’r cerbydau, ac maent wedi eu tynnu oddi yno, ond mae’r rhan fwyaf o’r gynnau dal ar yr ynys er gwaethaf sawl ymdrech i’w casglu ar gyfer sgrap, heb eu blaenau’n ddigon aml.

Integreiddiwyd Magnelfa’r Goleudy ar bwynt uchaf yr ynys gyda amddiffynfeydd yn amgáu’r barics, adeiladau gweinyddol a’r goleudy. Roedd y cadarnle yn cynnig amddiffyniad wrth gefn pe bai gelyn yn glanio. Torrwyd y ffos ddofn yn y graig drwy ddilyn nam daearegol naturiol, ac fe’i gwarchodwyd gan ragfur paralel cryf. Gorwedda magnelfa a thir Tŷ’r Drindod o gylch y goleudy yn rhan ddeheuol y cadarnle. I’r gogledd mae’r bloc barics, dyddiedig VR 1869, yr adeiladau gweinyddol a stôr ddiogel sydd â safle gorymdeithio o’i chwmpas. Roedd y rhain yn darparu cwarteri i’r hanner cant o filwyr oedd eu hangen yn y pedair magnelfa, ond dim ond un Prif Ynnwr a phum gynnwr fu ar yr ynys erioed. Adeiladwyd safle dal dŵr teilsiog trawiadol oedd yn gwyro i lawr tuag at danc dŵr tanddaearol. Defnyddir y tanc hwn hyd heddiw i gasglu dŵr glaw i gyflenwi dŵr i’r ynys.

Negeseuon ar draws y Dŵr – Guglielmo Marconi

Ar ôl methu ag ennyn diddordeb Llywodraeth yr Eidal, daeth Guglielmo Marconi, dyfeisiwr un ar hugain oed, â’i system telegraffiaeth i Brydain. Fe’i cyflwynwyd i William Preece, Cymro oedd yn ffigwr amlwg yn y maes, ac yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost Gyffredinol. Wedi arddangos ei system telegraffiaeth fflach diwifr yn llwyddiannus ar Wastadedd Salisbury ym Mawrth 1897, daeth i Ynys Echni gyda’i gynorthwyydd, George Kemp, ym mis Mai.

Ym Mai 1897 fe wnaeth Kemp a Marconi drosglwyddo’r negeseuon diwifr cyntaf dros y môr, o Ynys Echni i Bwynt Larnog, a ardystiwyd gan yr Athro Slaby ar ran Y Kaiser, ymysg eraill. Danfonwyd y slip morse “Are you ready?” ar 13 Mai, ac fe’i arwyddwyd gan Signor Marconi a George Kemp.

Colera a’r Ysbyty Ynysu

Yn 1883 defnyddiwyd Ynys Echni fel ysbyty ynysu er mwyn arbed y tir mawr rhag epidemig colera.

Yn 1892, ar ôl achos difrifol o golera yn Hambwrg, darganfuwyd pum llong wedi eu heintio yn angori oddi ar Ynys Echni. Symudwyd y cleifion i ysbyty Ynys Echni.

Y flwyddyn ganlynol, cafwyd achos o colera unwaith eto, ac aed â dau glaf arall i’r ysbyty. Roedd yr adeilad bychan yn profi i fod yn annigonol a phenderfynwyd bod angen ysbyty mwy sylweddol. Yn 1896, adeiladwyd ysbyty newydd. Yn y prif adeilad, roedd dwy ward chwe gwely, tra gwnaed gwelliannau i’r adeilad a addaswyd er mwyn darparu pedwar gwely ychwanegol. Adeiladwyd amlosgfa bren a golchdŷ yn ogystal.

Condemniwyd yr adeilad gan yr Adran Iechyd yn 1935

Yr Ail Ryfel Byd

Dechreuwyd ar y gwaith o wneud Ynys Echni yn gadarnle yng ngwanwyn 1941, a gwnaed y prif waith adeiladu ar safleoedd y gynnau drwy gydol 1942.

Gosodwyd dros 350 o filwyr wedyn ar Ynys Echni. Sefydlwyd dwy fagnelfa o dan Orchymyn Gwrthawyrennol (AA). Yn y ddwy roedd dau wn AA marc 2, 4.5 modfedd, gorsaf gorchymynion a goleuadau chwilio bob ochr. Roedd gynnau Bofor a Lewis yn atgyfnerthu arfogaeth yr AA..

Wedi ei ymgorffori i gynllun y Fagnelfa Ddeheuol roedd y “Benger Goalpost”.fel y’i llysenwir erbyn hyn. Roedd yr Uwchgapten D. Benger, a oedd yng ngofal Magnelfa 146 yr Arfordir, yn poeni bod ei wn rhif 2 yn rhy agos i’r Goleudy. Roedd yna gryn berygl y gallai’r gwn saethu pen y tŵr i ffwrdd. Gwnaeth yn siŵr bod ffrâm 2” o bibellau dur yn cael ei chodi, oedd yn gorfodi’r gwn i fyny, gan osgoi’r perygl felly.

Roedd lein reilffordd fach gul, wedi ei gwneud – yn ddigon anghyffredin – o adeiladwaith Almeinig y Rhyfel Byd Cynta, yn cario locomotifau a wagenni disel i gario ffrwydron, deunyddiau a bwydydd ar hyd yr ynys.

Yng nghanol yr ynys roedd platfform Radar, lle’r oedd y caban derbyn radar symudol, gyda therfyn ffug wedi ei wneud o rwydi weiar o’i gylch. Gwnaed defnydd llawn o’r Barics Fictoraidd, a thra newidiwyd un ward o fod yn Ysbyty Colera i fod yn NAAFI, newidiwyd y llall i fod yn sinema a neuadd cyngerdd, gyda ystafell daflunio. Dangoswyd ffilm bob pythefnos bron, a chynnal parti cyngerdd bob mis. Aeth y ffermdy’n ystafell ar gyfer Swyddogion.

Aeth Ynys Echni’n anweithredol yn Rhagfyr 1944. Yn 1945/6 symudwyd y rhan fwyaf o’r offer fu ar yr ynys yn ystod cyfnod y fyddin gan garcharorion rhyfel Almeinig.

Mae tripiau ar gael trwy gydol y flwyddyn i ymweld ag Ynys Echni, o dripiau dydd i arosiadau hirach. Mae tripiau cwch RIB wedi’u trefnu o flaen llaw i’r ynys sy’n mynd o Gaerdydd sawl gwaith y mis. Gall hyd at 12 teithiwr fynd ar bob cwch RIB. Mae’r tripiau yn caniatáu hyd at 3 awr ar yr ynys yn dibynnu ar amseroedd y llanw. Fel arall gallwch deilwra eich ymweliad eich hun os ydych yn mynd mewn grŵp mawr neu os hoffech aros am ddiwrnod hirach neu dros nos.

Lluniau gan: Gareth Johns

Ymweliadau dydd

Mae ymweliad dydd byr ag Ynys Echni yn cynnig hyd at dair awr ar yr Ynys a chyfle unigryw i weld cadwraeth, bywyd gwyllt ac adeiladau hanesyddol Ynys Echni.


Sut i drefnu

Gellir trefnu i hwylio i’r Ynys am ddiwrnod gyda’r gweithredwyr canlynol

Gwefan Ffôn
Cardiff Sea Safaris visitflatholm.co.uk 029 2048 7663
Bay island voyages bayislandvoyages.co.uk 073 9347 0476

 

Pris

Ffioedd cwch – Cysylltwch â’r gweithredwr cwch am brisoedd.

Arosiadau dros nos / ymweliadau preswyl

Gallwch deilwra eich ymweliad eich hun os ydych yn mynd mewn grŵp mawr neu os hoffech aros yn hirach na diwrnod.

 

Arosiadau dros nos / ymweliadau preswyl

  • Mae llety ystafelloedd cysgu ar gael yn ffermdy ein canolfan faes y gall hyd at 24 person gysgu ynddo (ystafelloedd gyda 2, 10 a 12 gwely).
  • Cewch wersylla ym nghaeau’r tŷ fferm pan fo’r llety ystafelloedd cysgu’n llawn (ni ddarperir pebyll).
  • Mae Fog Horn Cottage, sy’n adeilad rhestredig gradd II, wedi’i drawsnewid yn fwthyn hunan-arlwyo ac mae ynddo dair ystafell wely fodern a dwy ystafell gawod. Mae gan y bwthyn cartrefol ei ardd ei hun gyda BBQ cerrig a golygfeydd ysbrydoledig.

Wedi’i ddodrefnu mewn partneriaeth â John Lewis Caerdydd, dyma’r lle delfrydol i ddianc rhag bywyd bob dydd.


Sut i drefnu

I drefnu ymweliad preswyl cysylltwch â;

Swyddfa Drefnu Ynys Echni
Awdurdod Harbwr Caerdydd
Tŷ’r Frenhines Alexandra
Cargo Road
Bae Caerdydd
CF10 4LY

Ffôn: 029 2087 7912

E-bost: flatholmproject@cardiff.gov.uk

Ffacs: 029 2087 7901


Pris

Tâl Glanio

Oedolyn £5.00
Plentyn £2.50

 

Ymweliadau Preswyl:

Oedolyn £19.00 y noson
Plentyn £16.00 y noson

 

Tâl Gwersylla:

Oedolyn £8.00 y noson
Plentyn £7.00 y noson

Gwybodaeth ychwanegol i ymwelwyr

  • Mae angen oedolion i oruchwylio grwpiau o blant. Mae nifer yr oedolion sydd eu hangen yn amrywio, gan ddibynnu ar ba fath o ymweliad ac oedran y plant. Cysylltwch â ni am fanylion.
  • Mae angen i grwpiau gyflenwi eu bwyd eu hunain
  • Nid ydym yn cynnig consesiynau i’r henoed , myfyrwyr neu bobl ddi-waith.
  • Ni chaniateir cŵn ar yr Ynys.

Mae popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer addysg yn yr awyr agored ar gael ar Ynys Echni. Ein nod yw cynnig Ynys Echni fel amgylchedd addysgol, gan barhau i’w chadw fel gwarchodfa natur.

P’un a ydych am drefnu diwrnod addysgol neu ymweliad hirach, gwnawn ein gorau i ddiwallu eich anghenion.  Mae ymweliadau dydd yn cynnwys taith gyffredinol o’r Ynys, yn edrych ar ei hanes a’i bywyd gwyllt. Fel arall, os ydych am ganolbwyntio ar bwnc penodol, gallwn weithio gyda chi i gynnig gweithgareddau addysgol byrrach. Gallwn hefyd weithio gyda chi i ddatblygu rhaglen o weithgareddau i grwpiau sy’n aros ar yr Ynys am rai nosweithiau.

Rydyn ni’n gwahodd grwpiau prifysgol i gynnal eu hastudiaethau eu hunain mewn amrywiaeth o feysydd, e.e. bioleg, astudiaethau morol, daeareg, celf.

Cysylltwch â ni ar 029 2087 7912 i gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich gofynion addysgol.

Mae’r tîm yn cynnwys dau aelod o staff sy’n gweithio yn y swyddfa ac un warden sy’n gweithio ar yr ynys.

Mae’r tîm yn cael cefnogaeth gan hyd at chwe gwirfoddolwr ar unrhyw adeg. Mae ymrwymiad o chwe mis yn ddelfrydol ac nid oes angen unrhyw brofiad arnoch.  Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio am gyfnod byrrach, dylech gysylltu â’r swyddfa dir yn yr un modd.

Diddordeb mewn gwirfoddoli?

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, darllenwch y wybodaeth isod ac anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol atom i: projectynysechni@caerdydd.gov.uk

Beth fydd gwirfoddolwyr yn ei gael?

Er na allwn gynnig tâl i wirfoddolwyr, rydym yn cynnig:

•        bwyd a llety a rennir sylfaenol

•        help gyda chostau teithio

•        hyfforddiant allanol (Cymorth Cyntaf, cwrs torri a thocio coed Lantra)

•        hyfforddiant mewn swydd (peiriannau, codi waliau cerrig, arwain teithiau, addysg)

•        profiad amhrisiadwy mewn amrywiaeth eang o dasgau, gyda chyfradd llwyddiant ardderchog o ran gwirfoddolwyr sy’n mynd ymlaen i gael swydd â chyflog.

Beth yw gwaith y gwirfoddolwyr?

Fel gwirfoddolwyr byddwch yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar waith yr Ynys o ddydd i ddydd, yn cynnwys:

•        cofnodi a monitro bywyd gwyllt

•        gwaith rheoli cynefinoedd ymarferol

•        arwain teithiau tywys i ymwelwyr

•        cynnal adeiladau rhestredig

•        cadw a rheoli stoc

•        arwain partïon gwaith gwirfoddol
Beth sydd ei angen ar wirfoddolwyr?

•        gwybodaeth am y gwyddorau amgylcheddol/naturiol neu reoli cefn gwlad

•        brwdfrydedd

•        hyblygrwydd

•        sgiliau cyfathrebu

•        ymrwymiad

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Ynys Echni ar Ffôn: (029)208 77912 neu E-bost: projectynysechni@caerdydd.gov.uk

Cymdeithas Ynys Echni

Oes gennych chi ychydig oriau’n rhydd bob wythnos, mis neu flwyddyn? Oes gennych chi sgiliau DIY neu arddio i’w cynnig? Hoffech chi gael eich hyfforddi i fod yn dywysydd, bod ar bwyllgor neu helpu i godi arian? Beth bynnag sydd gennych i’w gynnig, hoffem glywed gennych.

Sefydlwyd Cymdeithas Ynys Echni i hyrwyddo a chynorthwyo Prosiect Ynys Echni. Mae aelodau’r gymdeithas yn ffurfio gweithgorau, yn gweithredu fel tywyswyr ar yr ynys, yn codi arian ac yn helpu gyda thasgau cysylltiedig, a hefyd yn cefnogi digwyddiadau cymdeithasol ar y tir mawr.

 

Aelodaeth o Gymdeithas Ynys Echni

Bob blwyddyn bydd aelodau’r gymdeithas yn derbyn manylion digwyddiadau sydd i ddod ac mae ein cylchlythyr blynyddol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am weithgareddau’r gymdeithas. Cost tanysgrifiad blynyddol i fod yn aelod o Gymdeithas Ynys Echni yw £15.

Am fanylion pellach, cysylltwch â’r cadeirydd (Peter Sampson) drwy Swyddfa Prosiect Ynys Echni.

Newyddion: Mae gan Gymdeithas Ynys Echni wefan: www.flatholmsociety.org.uk/

 

Mae Cymdeithas Ynys Echni yn elusen gofrestredig (Rhif Cofrestru. 1000899)


Awdurdod Harbwr Caerdydd
Tŷ’r Frenhines Alexandra
Cargo Road
Bae Caerdydd
CF10 4LY

Ffôn: 029 2087 7912

Ffacs: 029 2087 7901

 

Ebost: flatholmproject@cardiff.gov.uk
Facebook: facebook.com/flatholm
Twitter: twitter.com/flatholmers
Blog: flatholmisland.wordpress.com
Amdanom ni

Rheolir Ynys Echni gan Broject Ynys Echni, sy’n cynnwys warden llawn amser a thîm o wirfoddolwyr. Mae’r warden yn byw’n barhaol ar yr ynys, ac mae 2-3 gwirfoddolwr yn ei gynorthwyo ar unrhyw adeg. Mae’r tîm yn gweithio i gynnal, astudio a chadw’r ynys, ei hadeiladau a’i bywyd gwyllt.Mae Ynys Echni yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Leol. Mae’r warden a’r gwirfoddolwyr yn gwarchod nodweddion naturiol a diwylliannol yr Ynys, o laswelltir arforol i farics Fictoraidd, o gytrefi adar môr i fynceri rhyfel.

Yn gweithio ochr yr ochr â thîm Project Ynys Echni mae Cymdeithas Ynys Echni. Mae’r gymdeithas yn cefnogi gwaith tîm y project drwy godi arian a dod o hyd i wirfoddolwyr. Mae’n elusen sy’n helpu i warchod bywyd gwyllt ac amgylchedd hanesyddol Ynys Echni.

I gael rhagor o wybodaeth am y gymdeithas, ewch i www.flatholmsociety.org.uk

Natur

Cadwraeth Natur

Mae Ynys Echni yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Leol. Mae’r prosiect yn gwarchod nodweddion naturiol a diwylliannol yr Ynys, o laswelltir arforol i farics Fictoraidd, o gytrefi adar môr i fynceri rhyfel.

Ystyrir y gytref o wylanod cefnddu a’r glaswelltir arforol yn bwysig i gadwraeth natur. Rheolir yr Ynys mewn dwy ffordd wahanol ar gyfer y nodweddion hyn. Gwarchodir ochr ogleddol yr Ynys ar gyfer rhywogaethau morol, ac fe gedwir yr ochr ddeheuol fel cytref i’r gwylanod cefnddu heb angen fawr o reolaeth.

Cynllun Rheoli

Mae Cynllun Rheoli Ynys Echni yn amlinellu nodweddion pwysig yr ynys. Mae’n creu sylfaen ar gyfer gwella cynefinoedd yr ynys.

Ym 1982, sefydlwyd Prosiect Ynys Echni. Y nod oedd rheoli Ynys Echni fel gwarchodfa natur leol ac annog mynediad a chyfleoedd addysg i ymwelwyr.
Mae i’r ynys hanes hir ac amrywiol, ac fe’i defnyddiwyd gan ddyn ers y cyfnod cyn hanes. Ffermiwyd yno am 800 can mlynedd a daeth hynny i ben ym 1942. Fe’i trowyd yn gadarnle ddwywaith, yn fwyaf diweddar yn ystod yr 2il Ryfel Byd. Mae gan yr ynys nifer o adeiladau a strwythurau o ddiddordeb hanesyddol, ac mae nifer ohonynt yn adeiladau rhestredig a henebion rhestredig.

Mae hanes a daeareg naturiol Ynys Echni yn ddiddorol a phwysig. Dyma rai o’r nodweddion hynod:

  • Glaswelltir calchfaen ar yr arfordir
  • Cynefinoedd ar glogwyni
  • Cennin gwyllt
  • Cytref o wylanod cefnddu sy’n nythu

Dyma restr o rai o’r rhywogaethau y gellir eu gweld ar yr Ynys drwy gydol y flwyddyn; Adar: hwyaid yr eithin, piod môr, corhedion y graig, pincod a llinosiaid, cwtiaid y traeth a phibyddion y mawn Anifeiliaid: cwningod, dallnadroedd, madfallod a gloÿnnod byw Planhigion: cennin gwyllt, rhosod-y-mynydd gwyllt, clustogau Mair, lafant y morgreigiau, gludlys arfor a chlychau’r gog.

Cynaliadwyedd

Mae prosiect Ynys Echni’n anelu i arddangos technolegau cynaliadwy. Roedd y cyflenwad pŵer gwreiddiol yn cynnwys amryw o eneraduron diesel anghysylltiedig mewn gwahanol adeiladau.

Yn 2006/2007, cafodd grid bychan ei osod rhwng y ffermdy, y gweithdai a bwthyn ceidwad y corn niwl. Caiff y grid hwn ei bweru gan fanc batri a gaiff ei wefru gan ddwy res o baneli ffotofoltäig, a chan dyrbin gwynt wedi’i leoli ar hen dŵr telathrebu ar ran uchaf yr Ynys. Ar hyn o bryd, mae’r Ynys yn gallu cynhyrchu 90% o’i thrydan o ffynonellau gwyrdd, gan leihau ôl troed carbon yr Ynys.

Mae’r ynys hefyd yn gynaliadwy gan nad oes ffynhonnell o ddŵr ar yr ynys, felly cesglir dŵr glaw oddi ar doeau’r adeiladau. Caiff y dŵr hwn ei gadw mewn tanc dŵr Fictoraidd tanddaearol a’i bwmpio drwy system hidlo uwch fioled.

Mae system wresogi ynni’r haul a boeler biomas yn darparu’r rhan fwyaf o ddŵr poeth a gwres sydd ei angen ar yr Ynys drwy gydol y flwyddyn. Caiff broc a gesglir o’r glannau ei sychu am flwyddyn a’i ddefnyddio’n danwydd ar gyfer y boeler, gan leihau’r angen i gludo pren o’r tir mawr.